Cynhelir arwerthiannau canghennog sirol hyrddod o’r brid yn ystod yr hydref yn 
  flynyddol gyda’r prif arwerthiannau y gymdeithas yn Nolgellau, Llanrwst, Bala a 
  Croesoswallt. Mae ambell arwerthiant yn cael eu cynnal hefyd ym Mryncir a 
  Gaerwen. Ym mis Medi ceir arwerthiannau defaid magu fydd yn debyg o gynhyrchu 
  ŵyn am o leiaf dri thymor arall, ŵyn fydd yn cynhyrchu cig blasus a safonol. Mae gan 
  lawer o fridwyr eu hoffterau eu hunain wrth fridio Defaid Mynydd Cymreig tra’n 
  cadw o fewn rhinweddau a safonau’r brid. Mae hyn yn arwain at amrywiaeth 
  ehangach yn y math o ddafad a hwrdd sydd ar y farchnad, gall y prynwr ddewis y 
  math sydd fwyaf buddiol I’w diadell. Mae ffermwyr wedi cael oes o fwynhad a 
  boddhad o fridio’r brid arbennig a thraddodiadol hyn. Mae’r brid, y gymdeithas a’r 
  arwerthiannau hydref yn ran bwysig o ddiwydiant amaeth cefn gwlad cymru.  
  Arwerthiannau 2021
  Cafwyd blwyddyn llewyrchus iawn yn arwerthiannau 2021 gyda EL & ML Evans, 
  Grugor Isaf, Bylchau yn gwerthu hwrdd am 23,000gns. Cewch luniau ac 
  adroddiadau marchnad llawn ar ein tudalen facebook.