Aelodaeth
  Mae'r aelodaeth yn agored i rhywun sydd: 
  •
  
  Yn ffermio diadell Fynydd Gymreig 
  •
  
  Yn cefnogi nod ac amcan y gymdeithas 
  •
  
  Rhaid i ffermwyr sy'n gwerthu hyrddod yn arwerthiannau'r 
  gymdeithas pasio arolwg diadell ar y fferm.  
  Bydd aelodaeth yn cychwyn cyn gynted ag y bydd y 
  ffurflen aelodaeth a'r taliad blynyddol cyntaf wedi dod i 
  law.  
  £30 yw'r ffi aelodaeth ac mae hwn i'w dalu yn flynyddol 
  gan bob aelod ar y 1af o Ionawr drwy orchymyn 
  sefydlog.  
  Bydd yr Ysgrifenydd a Swyddog Datblygu yn gyfrifol am 
  yr rhestr aelodaeth. 
  Terfynu bod yn aelod 
  I derfynu'r aelodaeth gall aelod nodi eu bwriad i wneud 
  hyn drwy yrru yn ysgrifenedig i'r Ysgrifennydd a 
  Swyddog Datblygu. 
  Bydd yr ysgrifennydd yn cysylltu ag unrhyw aelod nad 
  yw wedi talu ei ffi aelodaeth am flwyddyn. Os na fydd 
  taliad yn cyrraedd ar ôl hyn yna bydd yr ysgrifennydd yn 
  terfynu ei aelodaeth.
  Llawrlwythwch ffurflen aelodaeth yma.
  Llawrlwythwch polisi preifatrwydd yma.
  
  
 
  Cymdeithas Defaid Mynydd Cymreig © 2025                          
  Website designed and maintained by H G Web Designs
  
 
 
 
  Sylfaen y diwydiant defaid yng Nghymru
  # Dafad aml-bwrpas - ar fynydd neu lawr gwlad