Rhinweddau
Erys rhinwedau sylfaenol y Ddafad Fynydd Gymreig yr un mor berthnasol i
ofynion amaethyddiaeth yr unfed ganrif ar hugain ag a fu ers cenedlaethau.
Mae’r brid yn arglwyddiaethu yn ei chartref traddodiadol gyda’i chaledwch
eithriadol a’i gallu i oroesi o dan amgylchiadau anodd yn golygu y gall ffynnu
ble buasai bridiau eraill yn trengu.
Mae defaid mynydd yn borwyr rhagorol, yn ddarbodus, llaethog ac yn famau
da tros ben, yn amddiffynnol o’u hepil ac yn wyna yn hawdd, boed allan neu
dan dô. Genir yr ŵyn gyda gorchudd dda i’w galluogi i oroesi, maent yn
fywiog o’r cychwyn heb angen llawer o fwydo ychwanegol, gan dyfu fwyaf ar
laeth y fam a phorfa naturiol ucheldir Cymru.