Canran Wyna
Ar y mynydd, gellir disgwyl cyfartaledd wyna hyd at 130% cyfartaledd sy’n codi i 180% pan a’r ddafad i fyw lawr gwlad ble mae amgylchiadau mwy
ffafriol yn rhoi hwb sylweddol i’r famog gyda phorthiant gwell yn deillio o borfeydd fwy toreithiog.
Mae modd cynhyrchu ŵyn mynydd pur fydd yn pwyso hyd at 18kg ar y bâch: gan amlaf bydd wyn o’r ucheldir yn pwyso oddeuty 15kg. Wrth iddynt gael
eu symud lawr gwlad a’u croesi gyda hwrdd o frid arall megis y Suffolk, Texel neu Charollais, gall y ddafad fynydd gynhyrchu ŵyn â phwysau uwch, hyd
at 22kg.
Gall ddafad fynydd fagu oen sy’n fwy o faint na hi ei hun.