Cookies management by TermsFeed Cookie Consent

Cymdeithas Defaid Mynydd Cymreig © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs

Darn o’r Corff
Pwynt
Pen
Gwrywaidd, cymhedrol o faint, yn culhau tua’r trwyn. Pen llawn yn enwedig y talcen a than y llygaid. Lled da rhwng y cyrn (lled dau neu dri bys), ffroen ddu heb fod yn rhy lydan. Dim gwlan ar y talcen na’r bochau. Hyd cymhedrol o’r llygaid i’r ffroen, gên gref a dofn.
Dannedd
Llydan, ddim yn rhy hir, ac yn sownd
Clust
Cymhedrol o drwch a hyd, gogwyddo I fyny (ar steil clust ceffyl).
Llygaid
Mawr a bywiog, lled da rhwng y ddwy, heb fod yn rhy agos i’r corn.
Corn
Lled da rhwng y ddau gorn, ddim yn codi i fyny ac yn dod i lawr a thro da ynddynt. Maint cymhedrol ac ysgafn, amcanu at liw melyn hyd yn bosibl. Tra yn cymeradwyo corn, ni ddylid gwrthod hwrdd da am ei fod yn foel.
Gwddf
Hyd cymhedrol a chryf ac yn asio yn dda ar y frest.
Ysgwydd
Crwn, llawn, cryf ac yn asio yn dda i’r cefn. Dim colliant tu ôl i’r ysgwydd, yn cario yn dda o’r gwar.
Brest
Llydan, dwfn, ac yn llaes; dod ymlaen yn dda.
Cefn
Yn gryf, byr, yn cario yn dda o’r ysgwydd i’r lwyn, yn wastad ac yn llawn.
Asen
Dwfn a digon o fwa ynddi i sicrhau digon o gylchfesur i’r galon.
Llwyn
Llydan, llawn, ac yn gryf, yn fyr o’r asen i ben y glun.
Crwper
Yn llydan, a hyd da o’i hip i fôn y gynffon, ac i gario yn dda.
Cynffon
Llawn, yn ychydig is na’r gar, bloran y gynffon yn gron – yn llawn, ac yn gryf ym môn y gynffon. Gwlaniad garw (asio yn dda i’r crwper).
Clun
Llydan, i ddod i lawr yn dda i’r gaer, a gwlan garw arni.
Tor
Yn llydan, ac yn wlanog. Cwd ddim i gario hyd y bol, nac i hollti.
Asgwrn
Cymhedrol a phlygiad da yn y goes, llydan a fflat (tebyg i argwrn ceffyl).
Troed
Ewinedd duon, y carn yn galed a’r gwaden yn llydan.
Croen
Pinc
Coes
Hyd gymhedrol o’r goes i’r cymal, dim gwlan i fod ar y coesau is na’r cymal.
Lliw
Melyn, lliw hufen neu sofren a spotia gwyn.
Gwlan
Cnu trwchus a digon o hyd ynddo, grymus ei afael, gwlyddyn neu fargoed yn dod trwyddo. Lliw gwyn, ond ni chondemnir cochin yn y gwar a’r gynffon.
Ymddangosiad
Cydnerth, solat, yn cerdded yn ysgafn a bywiog ac yn dal ei ben I fyny yn wyllt.
Sylfaen y diwydiant defaid yng Nghymru # Dafad aml-bwrpas - ar fynydd neu lawr gwlad

Cymdeithas Defaid Mynydd Cymreig © 2024

Website designed and maintained by H G Web Designs