Lawr Gwlad
Er bod y Ddafad Fynydd yn frid sydd wedi addasu yn berffaith i fyw dan
amodau anodd ucheldir Cymru, mae hefyd yn gweddu’n dda i’r ffermwyr
hynny sy’n amaethu ar diroedd eraill, yn is i lawr. Mae amryw un sy’n ffermio
lawr-gwlad yn gweld mantais mewn prynu mamogiad hŷn o’r mynydd i’w
croesi â hyrddod bridiau megis y Texel, Suffolk neu’r Charollais i gynyrchu
ŵyn tewion o safon uchel i gwrdd â’r gofynion manwl y mae’r marchnadoedd
ad-werthu yn eu disgwyl gan gadw enw da yr ŵyn o’r mynydd am fod yn gig
oen blasus tros ben
Mewn astudiaeth ar fferm yn ucheldir Canolbarth Cymru, danghosodd y
Ddafad Fynydd ei gallu i gynhyrchu ŵyn sylweddol wrth ei chroesi â hwrdd
brid y Texel. Ar gyfartaledd, ‘roedd yr ŵyn yn yr arolwg yn pwyso 39.5 kg pan
yn 170 niwrnod oed gyda phwysau y carcas yn 17.3 kg ar ôl eu lladd.
Graddiwyd 84% ohonynt yn ‘R’ neu well, ŵyn a gynhyrchwyd â phorfa yn unig
heb angen bwydo pellach â dwys-fwyd
Gall y Ddafad Fynydd fyw yn hir iawn gan ddal i gynhychu ŵyn wrth fynd yn
hŷn. Mae digon o dystiolaeth er engraifft am ddefaid mynydd pump oed a
mwy yn cynhyrchu dau oen Charollais croes ym mis Mawrth fydd yn pwyso
40 kg yn fyw ddiwedd Mehefin pan yn barod i’w gwerthu.