Dydd Agored
•
DIWRNOD AGORED Y GYMDEITHAS 2025
•
DIWRNOD AGORED Y GYMDEITHAS 2024
•
DIWRNOD AGORED Y GYMDEITHAS 2023
•
DIWRNOD AGORED Y GYMDEITHAS 2022
Oherwydd Covid-19 yn anffodus ni fu modd i ni
gynnal dydd agored yn 2020 nac yn 2021.
Hyderwn y byddem yn cynnal dydd agored ym mis
Medi 2022.
DIWRNOD AGORED Y GYMDEITHAS 2019
Cynhaliwyd diwrnod agored Cymdeithas Defaid Mynydd
Cymreig 2019 o dan nawdd cangen Sir Ceredigion yn
Tynant, Talybont, Aberystwyth, Ceredigion ar ddydd
Sadwrn 21ain o Fedi drwy garedigrwydd Dilwyn, Marion,
Rhydian, Elgan a’u teuluoedd.
Maent yn ffermio 2,600 o erwau i gyd gyda’r buarth yn
mesur 650 o droedfeddi uwchlaw ‘r môr ac yn codi hyd
at 1750 o droedfeddi i bwynt uchaf y Fferm. Yno hefyd
mae capel Bethesda Tynant lle caiff gwasanaeth ei
gynnal unwaith y mis yn ystod tymor yr Haf. Bu iddynt
ennill cystadleuaeth y Byrnau Mawr trwy Gymru gyfan
yn y flwyddyn 2014 gan Gymdeithas Tir Glas Cymru, a
hefyd wedi derbyn y gilwobr yn 2019. Mae’r ddiadell yn
cynnwys 2000 o famogiaid ynghyd â 450 o ŵyn benyw
bob blwyddyn. Croesir tua 500 o ddefaid gyda hwrdd
Texel a Primera i gynhyrchu wyn tewion.
Roedd yr haul yn tywynnu ar trefnu trylwyr wedi sicrhau
llwyddiant mawr ar y dydd. Croesawyd y dorf o dros
gant a hanner gan Mr Huw Davies, Llety Ifan Hen,
Cadeirydd Cangen Ceredigion a trosglwyddwyd yr
awenau i Mr Elgan Evans Tynant. Fe aethpwyd ar daith
ddiwylliannol amaethyddol 13 milltir o amgylch y fferm a
drwy diroedd anghysbell ardal Talybont ar sawl tractor
a thrailer.
Yn gyntaf fe welwyd caeau cnwd gaeaf lle bydd y defaid
yn mynd i fwyta ar ôl eu sganio, yna ymlaen i Fynydd
Uchaf i weld 450 o ŵyn benyw. Yno hefyd gwelwyd
aelodau cangen Ceredigion yn gweithio Cwn Cymreig.
Aethpwyd ymlaen wedyn a thrwy ucheldir Cwm Ceulan i
Fwlchygarreg a gwelwyd Gwartheg Duon Cymreig werth
i’w gweld yn magu lloi charolais a Defaid Mynydd yn eu
cynefin ac heibio nifer o adfeilion. Aethpwyd heibio Llyn
Nantycagl, drwy coedwig Cyneiniog at yr wyn gwryw. Yr
arfer fydd gwerthu’r wyn yn dew i gyd i ffwrdd ar
laswellt i Dunbia drwy gynllun Cig Oen Mynyddoedd y
Cambrian. Mae hyn yn sicrhau cig blasus. Gwelwyd hoel
rheilffordd fach yr Hafan yn arwain lawr at hen waith
plwm Bwlch Glas cyn cyrraedd Defaid Mynydd ym
Mwlch Glas. Dychwelwyd i’r buarth oddeutu 4:30 am
wledd o gig oen mynydd rhost, paned, cacen a sgwrs.
Clowyd y dydd gan Gadeirydd y pump Sir, Mr David
Evans, Penyglog.
Hoffai’r gymdeithas ddiolch i Deulu Tynant a Cangen
Ceredigion am eu holl waith yn sicrhau diwrnod agored
llwyddiannus dros ben.
DIWRNOD AGORED Y GYMDEITHAS 2018
Cynhelir Diwrnod Agored y gymdeithas am eleni dan
nawdd cangen Sir Drefaldwyn ar fferm G Roberts,
Glanhafon Uchaf, Llangynog, Croesoswallt SY10 0HL ar
ddydd Sadwrn 29 Medi 2018 am 1.00 o’r gloch.
Yn wahanol i’r arfer, fe fydd tri aelod yn cynnal y dydd
agored ar yr un fferm gan arddangos defaid y dair
ffarm. Yn ymuno â Mr Roberts a’i fab Emrys yn
Glanhafon Uchaf fydd Phil Morgan, Glanhafon Fach,
Llangynog SY10 0EW a Geraint Evans, Tŷ Mawr,
Llangynog SY10 0HD.
Mae Glanhafon Uchaf yn fferm 300 cyfer, yn cynnal
diadell o 500 o ddefaid mynydd gan groesi 60 gyda
hwrdd Charollais. Yn cadw rhyw 20 hwrdd mynydd,
mae’r teulu yn gwerthu yr helyw o’r ŵyn tewion ym
marchnad Croesoswallt.
Cedwir dros 500 o famogiaid yn bur yn Glanhafon Fach,
fferm yn ymestyn at 450 erw. Defnyddir hwrdd
Charollais ar 150 o ddefaid gan eu gwerthu fel cyplau
ym marchnad Ruthin ym mis Mai. Mae Mr Morgan yn
cadw 20 buwch sugno yn ychwanegol gan eu croesi hefo
tarw Belgian Blue.
Yn Ty Mawr, mae diadell o 1,300 i gyd, gyda 700 yn cael
eu cadw’n bur a’r gweddil yn cael eu croesi gyda hwrdd
Charollais yma hefyd.
Fe fydd y tri yn arddangos trawsdoriad o’u diadelloed
gyda 30 mamog, 30 dafad blwydd a 30 ŵyn benyw yn
ogystal a hyrddod, hyrddod blwydd ac ŵyn hyrddod.
•
DIWRNOD AGORED Y GYMDEITHAS 2017
DIWRNOD AGORED Y GYMDEITHAS 2016
Cynhelir Diwrnod Agored y gymdeithas am eleni dan
nawdd cangen Sir Ddinbych yng Nghwm Geifr a
Blaencwm, Llanarmon Dyffryn Ceiriog ar ddydd Sadwrn
1af Hydref 2016 am 1.00 o’r gloch, drwy garedigrwydd
Glyn a Lynne Jones, Elgan a Cathy, Gethin a Sara a’u
dwy merch, Annes a Glesni Mai.
Dylid ymgynull yn gyntaf yn Blaencwm am 1.00 o’r gloch
yn brydlon os gwelwch yn dda cyn symud ymlaen i Gwm
Geifr am 2.30pm. Mae Blaencwm rhyw dair milltir a
hanner i fyny o bentref Llanarmon DC. Rhaid troi i’r
chwith ar sgwar y pentref ar bwys tafarn yr Hand os yn
dod i lawr o gyfeiriad Llanrhaeadr ym Mochnant ar hyd
ffordd gul a throellog neu i’r dde ar y sgwar os yn dod i
fyny ar hyd y B4500 o gyfeiriad Y Waun, (neu Chirk) a
chario ymlaen ar hyd ffordd gul, Swch Cae Rhiw. Fe fydd
arwyddion i’ch helpu ond cofiwch peidio ac aros yng
Nghwm Geifr ond cario ymlaen am rhyw filltir arall cyn
troi i’r chwith ar ôl pasio hen gapel fydd ar y dde i chi i
gyfeiriad Blaencwm, sydd rhyw filltir eto i fyny’r dyffryn.
Blaencwm yw’r fferm olaf ar hyd y ffordd honno. Mae’r
ffordd yn aros yn gul ac fe ddylsech fod yn ofalus i osgoi
unrhyw anffawd
Mae buarth Blaencwm rhyw 1,300 troedfedd uwchben y
môr yng Nghwm Llawenog, Dyffryn Ceiriog ac yn codi
hyd at 2,600 troedfedd i ben Cader Bronweh sydd ar y
Berwyn. Mae’n ymestyn hyd at 1,500 o erwau gyda 200
erw ychwanegol o dir pori ar gael ar fynydd Blaenglyn.
Mae diadell o 1,200 o famogiaid yn cael eu magu, gyda
250 ohonynt yn cael eu croesi gyda hyrddod Texel ac
mae buches o rhyw 20 o wartheg duon Cymreig yn cael
eu cadw hefyd. Fe fydd mamogiaid, defaid dau ddant,
ŵyn benyw a hen hyrddod i’w gweld ym Mlaencwm.
Yng Nghwm Geifr mae'r buarth tua 1,200 troedfedd
uwchben y mor, lle mae diadell oddeutu 1,000 o
famogiaid Cymreig a 300 o famogiaid croes. Mae'r
defaid Cymreig yn pori ar fynydd Tarw ar Swch sydd
rhyngddynt yn ymestyn i tua 1,500 o erwau ac yn codi i
2,200 troedfedd. Mae hefyd 200 erw o dir wedi ei wella
hefo 160 erw o dir Pentre Pant, sydd ar rent, yn tyfu
silwair ac yn cartrefu'r defaid croes ar gwartheg iau.
Mae 350 o’r mamogiaid Cymreig yn cael ei croesi gyda
hyrddod Charollais a Cheviot. Yn Cwm Geifr, cawn weld
hen hyrddod, hyrddod blwydd, ŵyn hyrddod, ŵyn benyw
heb eu dyfnu gyda’u mamau a defaid dau ddant a
mamogiaid eraill. Dosbarthir yr ŵyn mewn ffordd i weld
pa hyrddod fydd eu tadau.
Gwerthir ychydig o ŵyn tewion y ddau le ar y bâch, un ai
i Randall Parker yn Llanidloes neu Dunbia yn
Llanybydder ond mae’r helyw yn cael eu gwerthu drwy’r
farchnad agored yng Nghroesoswallt a Ruthin neu fel
ŵyn stôr yn Ruthin neu Llanelwy.
Darperir lluniaeth ysgafn yng Nghwm Geifr. Rydym yn
eich annog i fod yn brydlon ac i arddel gofal er mwyn
hwyluso’r trafeilio i Flaencwm ac yna yn ôl i Gwm Geifr
neu fe all greu problemau ar y ffyrdd cul.
Cymdeithas Defaid Mynydd Cymreig © 2026
Website designed and maintained by H G Web Designs
Sylfaen y diwydiant defaid yng Nghymru
# Dafad aml-bwrpas - ar fynydd neu lawr gwlad